Cynlluniwr
Lles
Gweithio gyda chi ar gyfer y bobl sy'n bwysig

A oes diffyg cyfeiriad gan eich tîm? A yw eich sefydliad yn cael trafferth i gael ffocws? Neu a ydych chi a’ch cydweithwyr yn wynebu heriau a dim yn gwybod ble i ddechrau? Rwy’n arbenigo mewn helpu grwpiau a thimau i feddwl mewn ffyrdd newydd a grymusol er mwyn dod o hyd i atebion i’r problemau mwyaf cymhleth.
Mae llwyddiant mewn tîm, cymuned neu fusnes yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth er mwyn ysbrydoli gweithredu ar y cyd. Boed hynny’n ymwneud â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd neu ganolbwyntio ar ymdrechion tîm corfforaethol, daw llwyddiant wrth i bobl weithio tuag at nod cyffredin.
Fel y Wellbeing Planner, rwy’n darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sy’n helpu grwpiau o bobl, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, i gydweithio’n fwy effeithiol.
Ffordd well o ymgysylltu
“Mae unrhyw lwyddiant yn dibynnu ar bobl yn cydweithio. I weithio gyda’i gilydd, mae angen i bobl ddeall ei gilydd. Rhannu dealltwriaeth, meithrin ymddiriedaeth ar y cyd ac ysgogi pobl i wneud yfory yn well na heddiw yw’r hyn rydw i’n ei wneud orau.”
Dafydd Thomas,
Sylfaenydd Wellbeing Planner
Gwasanaethau Hwyluso ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Rwy’n hwylusydd lefel tri profiadol, dwyieithog sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Hwyluswyr y DU. Rwy’n arbenigo mewn creu amgylcheddau lle mae syniadau’n cael eu rhannu, pwrpas yn cael ei ddarganfod, lle mae unigolion yn ymrwymo i wneud i newid ddigwydd.
Datblygiad Sefydliadol
Rwy'n datblygu ymagweddau creadigol a llwyddiannus at ddatblygiad sefydliadol trwy weithio'n agos gyda'r cleient. Rwyf wedi helpu sefydliadau i hogi eu ffocws ar gwsmeriaid, deall dyheadau eu cymunedau a datgloi potensial eu tîm. Yr holl gynhwysion hanfodol ar gyfer llwyddiant.
Ymchwil Ansoddol a Gwerthusiadau
Rwy'n ymchwilydd ansoddol profiadol, yn Hyrwyddwr Ymholiad Gwerthfawrogol wedi'i achredu gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn aelod o'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad.