Cynlluniwr
Lles
Gweithio gyda chi ar gyfer y bobl sy'n bwysig
A oes diffyg cyfeiriad gan eich tîm? A yw eich sefydliad yn cael trafferth i gael ffocws? Neu a ydych chi a’ch cydweithwyr yn wynebu heriau a dim yn gwybod ble i ddechrau? Rwy’n arbenigo mewn helpu grwpiau a thimau i feddwl mewn ffyrdd newydd a grymusol er mwyn dod o hyd i atebion i’r problemau mwyaf cymhleth.
Mae llwyddiant mewn tîm, cymuned neu fusnes yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth er mwyn ysbrydoli gweithredu ar y cyd. Boed hynny’n ymwneud â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd neu ganolbwyntio ar ymdrechion tîm corfforaethol, daw llwyddiant wrth i bobl weithio tuag at nod cyffredin.
Fel y Wellbeing Planner, rwy’n darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sy’n helpu grwpiau o bobl, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, i gydweithio’n fwy effeithiol.